Teyrnged i Anna Beaumont – ‘enaid prydferth’ a fu farw yn Florida


Mae teulu merch o Gaerdydd fu farw ar wyliau yn yr Unol Daleithiau wedi rhoi teyrnged i “enaid prydferth”.

Cafodd Anna Beaumont, 13, ei chanfod yn anymwybodol mewn pwll ym mharc dŵr Discovery Cove yn Orlando, Florida ddydd Mawrth diwethaf.

Er iddi gael cymorth meddygol a’i chludo i’r ysbyty, roedd mewn cyflwr difrifol a bu farw’r diwrnod canlynol.

Fe wnaeth Ysgol Gyfun Radur, lle roedd Anna yn ddisgybl, hefyd roi teyrnged i “aelod gwerthfawr o deulu’r ysgol”.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt gyda’r teulu i gynnig cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.



Source link