Gething yn debygol o golli pleidlais diffyg hyder yn y Senedd


Mae’n edrych yn debygol y gallai’r Prif Weinidog Vaughan Gething golli pleidlais ar gynnig o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn y Senedd yn ddiweddarach.

Y Ceidwadwyr wnaeth y cynnig yn dilyn wythnosau o feirniadaeth, yn cynnwys gan rai o fewn Llafur, o roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddol Mr Gething.

Gan fod yr un nifer o aelodau Llafur ag aelodau’r gwrthbleidiau yn y Senedd, mae Mr Gething angen cefnogaeth pob aelod o’i blaid.

Ond dywedodd cadeirydd y grŵp ASau Llafur, Vikki Howells, bod dau aelod yn sâl ac felly ddim yn gallu pleidleisio.

Dywedodd Ms Howells na fyddai Mr Gething yn ymddiswyddo petai’n colli, gan alw’r bleidlais yn “gimig” a dweud mai’r “etholwyr sy’n penderfynu pwy sydd yn y Senedd”.



Source link